Llywelyn Fawr, sef Llywelyn ab Iorwerth (1173 – 11 Ebrill 1240), ŵyr Owain Gwynedd, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog de facto Cymru. Roedd yn unig fab i Iorwerth Drwyndwn, mab cyfreithlon hynaf Owain Gwynedd, ac yn daid i Lywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru.
[golygu] Sefydlu ei awdurdod
Ni wyddom lawer am flynydyddoedd cynnar Llywelyn. Yn ôl traddodiad cafodd ei eni yng Nghastell Dolwyddelan, Dyffryn Lledr. Gwelwyd 'Oes Aur' yng Ngwynedd yn oes Owain Gwynedd, ond ar ôl marwolaeth y brenin cadarn hwnnw yn 1170 cafwyd cyfnod ansefydlog gyda disgynyddion Owain yn ymgiprys am reolaeth. Tasg gyntaf Llywelyn oedd sefydlu ei awdurdod. Gwnaeth hyn yn rhannol trwy nerth arfau ac yn rhannol trwy nawdd a chynghreirio. Yn 1194 gorchfygodd Llywelyn ei ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd (ac efallai Rhodri ab Owain Gwynedd hefyd) ym Mrwydr Aberconwy. Am y pum mlynedd nesaf canolbwyntiodd ar gadarnhau ei awdurdod. Roedd 1197 yn drobwynt pwysig. Daliodd ei ewythr Dafydd ab Owain a'i alltudio o Wynedd a chymerodd feddiant ar Eifionydd a Llŷn oddi ar Faredudd ap Cynan. Daeth Hywel ap Gruffudd ap Cynan yn ddeiliad iddo a thalodd Gruffudd ap Rhodri a Rhicert ap Cadwaladr wrogaeth iddo. Erbyn 1199 roedd yn arfer yr ystîl Tocius norwallie princeps (Tywysog Gogledd Cymru Cyfan).
[golygu] 1200-1210
Yn 27 oed, roedd Llywelyn yn dywysog Gwynedd ar ôl gorchfygu ei ewythredd. Yn 1201 arwyddodd y cytundeb ysgrifenedig ffurfiol cyntaf yn hanes Cymru rhwng tywysog Cymreig a choron Lloegr. Yn y cytundeb roedd cynghorwyr y brenin John yn cydnabod hawl Llywelyn i orsedd Aberffraw a'r tir a ddaliai ac yn cydnabod hefyd ddilysrwydd Cyfraith Hywel Dda. Yn 1202 cipiodd Llywelyn gantref strategol Penllyn, ar y ffîn â Powys Fadog; arwydd o'i uchelgais am y dyfodol i reoli'r Bowys ymranedig.
I gadarnhau ei sefyllfa bellach, priododd â Y Dywysoges Siwan, merch gordderch y Brenin John, yn 1205. Manteisiodd Llywelyn ar ei berthynas newydd. Yn 1208 cipiodd Bowys Wenwynwyn (arestiwyd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys, oedd yn ddeiliad i goron Lloegr, dros dro gan John), gorymdeithiodd â'i fyddin i Geredigion gan feddianu ac atgyfnerthu Castell Aberystwyth a sicrhau gwrogaeth yr aglwyddi lleol. Dechreuodd cantrefi Cymreig y Mers edrych arno am gefnogaeth yn eu hymwneud â'r Normaniaid. Roedd angen cefnogaeth Llywelyn ar John yr adeg honno oherwydd problemau efo Ffrainc a nerth y barwniaid yn Lloegr, ac roedd Llywelyn yn ymwybodol o hynny. Yn 1209 bu'n cefnogi John yn ystod ei gyrch yn erbyn yr Albanwyr. Erbyn 1210 roedd awdurdod Llywelyn wedi ei osod ar seiliau cadarn, i bob golwg. Er ei fod yn anghytuno â John a'i olynydd, Harri III o Loegr weithiau, llwyddasai i gadw ei dywysogaeth yn annibynnol a hyd yn oed i gipio'r rhan fwyaf o Bowys a Cheredigion.
[golygu] 1210-1218
Yn y flwyddyn 1212 cyfnewidiodd Llywelyn Fawr lythyrau â Philip Augustus, brenin nerthol Ffrainc. Mae llythyr Philip ar goll ond cedwir llythyr Llywelyn yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc, ym Mharis. Cynnwys y drafodaeth oedd cynnig gan frenin Ffrainc i dywysog Gwynedd ymgynghreirio ag ef yn erbyn y brenin John. [1]
Ar ôl torri crib Arglwyddi'r Mers yn Ne Cymru, talwyd gwrogaeth ffurfiol iddo gan y tywysogion Cymreig eraill yn gynnar yn 1216 ger Aberdyfi, mewn cynulliad a adnabyddir fel Cynhadledd Aberdyfi. Datganodd ei hun yn Dywysog Gwynedd gan sicrhau ei nerth a'i reolaeth ar y rhan fwyaf o Pura Walia trwy Gytundeb Caerwrangon ym 1218.
[golygu] 1219-1228
Yn 1228 bu ymladd yng ngwmwd Ceri rhwng Llywelyn a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr. Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin a byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Llywelyn. Cododd Llywelyn yr arian trwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymeryd yn garcharor yn yr ymladd.
[golygu] Gweinyddiaeth
Datblygodd Llywelyn yr hen gyfreithiau Cymreig, Cyfraith Hywel Dda, a blodeuodd ysgol gyfraith ogleddol yn ystod ei deyrnasiad. Datblygodd system gweinyddol y dywysogaeth yn ogystal, gyda chymorth ei ddistain galluog Ednyfed Fychan.
[golygu] Trafferthion
Problem mwyaf y cyfnod oedd y rheolau ynglŷn ag etifeddiaeth yng Nghymru. Gan nad oedd y mab hynaf yn etifeddu holl dir a theitlau ei dad, ond yn hytrach bod eiddo'r tad yn cael ei ddosranni rhwng yr holl feibion, cyfreithlon ac anghyfreithlon, roedd hi'n anodd adeiladu arweinyddiaeth gryf i Gymru gyfan dros genedlaethau.
Problem arall oedd perthynas Cymru â Lloegr. Disgwylid i dywysogion Cymreig dalu teyrngarwch ffiwdal i frenin Lloegr fel ag a wnaeth Hywel Dda, Owain Gwynedd a'r Arglwydd Rhys. Ond nid oedd Llywelyn yn fodlon ar hynny, gan nad oedd rhaid i frenin yr Alban dalu gwrogaeth i frenin Lloegr.
[golygu] Ei berthynas â Siwan
Cerflun o ben Llywelyn a ddarganfuwyd yng nghastell Cricieth.
Llywelyn ar ei wely angau, gyda'i feibion Gruffudd a Dafydd. Llun mewn llawysgrif gan
Mathew Paris sy'n dyddio o tua 1259.
Ffotograff o feddrod Llywelyn.
Wedi genedigaeth Dafydd ap Llywelyn ac Elen, plant Llywelyn a Siwan, bu i Siwan gychwyn perthynas â Gwilym Brewys, arglwydd Normanaidd o Frycheiniog. Oherwydd hyn fe laddodd Llywelyn Wilym er bod merch Gwilym, Isabella, yn wraig i fab Llywelyn, Dafydd. Fe roddwyd Siwan dan glo. Wedi cyfnod maddeuodd Llywelyn i Siwan a'i hadfer yn dywysoges. Chwareai Siwan ran bwysig ym mherthynas Llywelyn â'i thad, y Brenin John, ac ar fwy nag un achlysur cynrychiolodd Llywelyn mewn materion diplomataidd rhwng llys Gwynedd a choron Lloegr.
[golygu] Ei ddiwedd
Ym Mrut y Tywysogion, dywedir i Lywelyn ymddeol i Abaty Aberconwy, y fynachlog Sistersiaidd a noddid ganddo, yn ei ddyddiau olaf a chymryd 'abid mynach'. Bu farw yno ym 1240 a chafodd ei gladdu yn yr abaty mewn cist garreg sydd i'w gweld yn eglwys Llanrwst heddiw.
Ar ôl ei farwolaeth dechreuodd ei etifeddion Gruffudd a Dafydd frwydro, er bod Llywelyn wedi cydnabod Dafydd fel ei unig etifedd. Bu i Ddafydd ennill gan olynu Llywelyn fel tywysog Gwynedd.
[golygu] Plant
Cafodd Llywelyn sawl plentyn gan fwy nag un gymar. Gan Siwan cafodd:
- Dafydd (c. 1215-1246): priodi Isabella de Braose
- Margaret: priodi Syr John de Braose, ŵyr Gwilym Brewys
- Elen (1207-1253)
- Gwladus Ddu. Nid oes sicrwydd mai Siwan oedd mam Gwladys. Yn ôl rhai cofnodion roedd hi'n ferch iddo gan un o'i wragedd gordderch.
Credir mai Tangwystl Goch, un o'i gwragedd gordderch, oedd mam Gruffudd, brawd hŷn Dafydd. Dyna pam dewisodd Llywelyn Ddafydd yn edling (etifedd ac olynydd) iddo.
Roedd ganddo ferch, hefyd, o'r enw Susanna, ond nid ydym yn gwybod pwy oedd ei mam.
[golygu] Llinach
[golygu] Llinach Tywysogion Gwynedd
[golygu] Ei ddisgynyddion
[golygu] Wedi ei farwolaeth
Cofir am Lywelyn Fawr fel tywysog cadarn a lwyddodd i wrthsefyll barwniaid ac arglwyddir'r Mers ac ymdrechion Coron Lloegr i feddianu Cymru.
Ceir sawl chwedl werin amdano, yn cynnwys y chwedl Hanes Llywelyn ap Iorwerth a Chynwrig Goch o Drefriw y ceir y testun cynharach ohoni yn llaw y bardd Gutun Owain (chwarter olaf y 15fed ganrif).[2] Y chwedl fwyaf adnabyddus amdano heddiw yw "Chwedl Gelert", ond mae'n debyg fod y chwedl gyfarwydd honno wedi cael ei dyfeisio ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Mae sawl bardd ac awdur wedi ysgrifennu am Lywelyn Fawr. Un o ddramâu enwocaf Saunders Lewis yw ''Siwan, sy'n dadansoddi perthynas Llywelyn a'i wraig, merch y brenin John o Loegr. Ceir drama fydryddol hanesyddol rymus, Llywelyn Fawr, gan Thomas Parry (ysgolhaig) hefyd.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ John Davies, Hanes Cymru, tt. 130-1.
- ↑ T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg: Detholion o Lawysgrifau 1488-1609 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954), tt. 8-10.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Ffynonellau
- G. Edwards (gol.), A Calendar of Ancient Correspondence concerning Wales (1935)
- J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
- Roger Turvey Llywelyn the Great (Gwasg Gomer, 2007) ISBN 978-1-84323-747-1
[golygu] Ffuglen